menu icon menu icon

Tywydd oer a’i effaith ar iechyd

Cofnodwyd yn: Blog

Mae llawer o ardaloedd yn y DU yn dianc rhag gaeafau eithriadol o oer diolch i’r gwyntoedd jetlif ac Iwerydd sydd yn fwy tebygol o greu hinsoddau cynhesach, gwlypach, felly nid yw yfnodau oer iawn ac eirïaidd yn rhywbeth rydym yn arbennig  o gyfarwydd ag e. A phan fydd y tywydd yn troi’n oer, nid yw o angenrheidrwydd yn beth drwg i’n hiechyd – gall lleihau llid a gall annog y corff i losgi mwy o galorïau i gadw’n gynnes. Fodd bynnag, pan fo’r tywydd yn troi’n oer, gall arwain at gynnydd mewn cyflyrau iechyd penodol, a all gyflwyno goblygiadau eithaf difrifol i rai pobl.

Gall tywydd ore ac afiechydon cysylltiedig gyflwyno goblygiadau sylweddol yn y gweithle, yn arbennig ar gyfer y rhai hynny sydd â chyflyrau iechyd cronig, sy’n debygol o gael eu heffeithio’n fwy gan yr oerfel. Mae angen i bobl ag afiechydon cronig fel asthma, arthritis, psoriasis a chlefyd cardiofasgwlaidd gymryd gofal arbennig i gadw’n weithgar yn ystod tywydd oer tra’n sicrhau eu bod yn wyliadwrus ynghylch lleihau’r risg o fynd yn sâl (e. e. gwisgo’n gynnes mewn sawl haen o ddillad pan ydynt yn yr awyr agored, bwyta’n dda, a cheisio peidio ag eistedd am gyfnodau hir).

Rhwymedigaethau cyflogwyr mewn tywydd oer

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd i wneud yr hyn sy’n rhesymol ymarferol i ddiogelu iechyd eu cyflogeion yn y gwaith, ond mae sut mae cyflogwyr yn gofalu am eu staff mewn tywydd oer yn dibynnu i raddau helaeth ar natur y gwaithsy’n cael ei wneud, a chyflwr iechyd unigolyn. Efallai y bydd angen asesiadau risg ychwanegol yn ystiod cyfnodau oer er mwyn sicrhau bod cyflogwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau (gellir ceisio cyfarwyddyd ynghylch peryglon iechyd yn ystod tywydd oer, yn ogystal ag atebion i ymholiadau penodol, ar y wefan Ffit i Weithio).

Er bod tymheredd derbyniol lleiaf ar gyfer gweithio dan do (o leiaf 16 gradd, neu 13 gradd lle mae gwaith yn cynnwys ymdrechion corfforolcaled), nid oes unrhyw baramedrau o’r fath ar gyfer pobl sy’n gweithio yn yr awyr agored. Fodd bynnag, mae’n ofynnol i gyflogwyr sicrhau bod amodau gwaith yn ddiogel ac iach, a rhaid iddynt i weithwyr gael mynediad i:

  • dillad cynnes digonol;
  • diodydd poeth rheolaidd;
  • egwyliau gorffwys aml i ganiatáu i weithwyr gynhesu.

Gall gweithwyr awyr agored fod yn arbennig o agored i rai cyflyrau sy’n gysylltiedig ag oerfel, megis:

  • Raynaud’s: Cyflwr cyffredin a all effeithio ar y cyflenwad gwaed a’r system nerfol i rai rhannau o’r corff, ond yn fwy cyffredin y bysedd a bysedd traed. Mae’r symptomau’n cynyddu’n sylweddol mewn tywydd oer pan fydd y llestri gwaed yn mynd i wingiad dros dro sy’n rhwystro llif y gwaed. Mae hyn yn achosi i’r ardal yr effeithir arni i newid lliw i wyn, yna glas ac yna yn olaf coch wrth i lif y gwaed ddychwelyd. Fel arfer mae dioddefwyr yn profi poen, merwindod a phinnau bach yn y rhannau o’r corff yr effeithir arnynt. Gall symptomau barhau rhwng ychydig funudau a sawl awr.
  • Hypothermia: Gall hyn ddatblygu pan fydd corff rhywun yn colli gwres yn gyflymach nag y gall ei gynhyrchu. Mae tymheredd y corff arferol oddeutu 37ºc ac mae hypothermia yn datblygu pan yw tymheredd y corff yn gostwng o dim ond 2ºc. Mae’r gostyngiad hwn yn y tymheredd yn atal yr organau hanfodol yn y corff rhag gweithredu’n gywir, a all arwain at organau’n methu ac, o bosibl, marwolaeth.
  • Cymalau poenus: Gall tywydd oer achosi poen yn y cymalau i rai pobl, yn arbennig mewn cymalau sy’n cynnal llwyth, megis y pengliniau, cluniau amigyrnau. Mae gwahanol ddamcaniaethau ynghylch pam mae’r oerfel yn achosi poen yn y cymalau, a allai fod yn ymwneud â dargyfeirio llif y gwaed i’r craidd gan ahosi i’r llestri gwaed yn y cymalau gyfyngu, neu o bosibl oherwydd ymateb lidiol yn y cymalau i newidiadau yn y pwysedd barometrig.
  • Trawiad ar y Galon: Mae nifer yr achosion o drawiadau ar y galon yn cynyddu yn y gaeaf oherwydd y crynodiad o lif y gwaed yng nghraidd y corff yn ystod tywydd oer, sy’n cynyddu pwysedd gwaed ac yn rhoi’r galon o dan fwy o straen. Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon, mae’r risg o drawiad ar y galon a strôc yn dyblu yn ystod cyfnodau oer o dri diwrnod o gymharu â ‘chyfnodau’ tri diwrnod byrrach – fe wnaeth marwolaethau oherwydd trawiad ar y galon a strôc gynyddu o 14% rhwng mis Rhagfyr 2015 a mis Mawrth 2016 o’i gymharu â gweddill y flwyddyn.

Gall y rhai sy’n gweithio dan do yn ystod cyfnodau o dywydd oer, mewn amgylcheddau wedi’u gwresogi ac weithiau wedi’u hawyru’n wael, fod yn agored i gyflyrau iechyd eraill:

  • Anwydon a ffliw: Mae’r rhain yn cael eu hachosi gan heintiau feirysol ac nid gan y tywydd oerfel y cyfryw. Fodd bynnag, mae anwydon a ffliw yn fwy cyffredin yn ystod misoedd y gaeaf, yn rhannol oherwydd y gall y cyfuniad o wresogi ac awyru gwael yn ei gwneud yn haws i bygiau ledaenu, ac yn rhannol oherwydd bod y system imiwnedd yn cael ei hatal yn ystod tywydd oer oherwydd bod llif y gwaed yn canolbwyntio ar graidd y corff. Mae’r gostyngiad dilynol yn llif y gwaed yn golygu bod llai o gelloedd gwaed gwyn ar gael i frwydro yn erbyn clefyd. Mae’r achos o ffliw eleni wedi bod yn arbennig o ddifrifol, a bu bron i dair gwaith yn fwy o farwolaethau o ffliw eleni na llynedd, felly mae pobl â chyflyrau iechyd cronig yn cael eu cynghori i sicrhau eu bod wedi cael eu brechiad rhag y ffliw.
  • Asthma: Mae gan bobl ag asthma lwybrau anadlu sensitif, a all gael eu gwaethygu gan amodau tywydd oer neu laith, ac yn aml cysylltir asthma sydd wedi gwaethygu ag anwydon a ffliw’r gaeaf. Er y gall fod yn demtasiwn i aros dan do i osgoi amodau tywydd sy’n sbarduno asthma, gall hyn wneud pethau’n waeth hefyd, oherwydd gall tai sydd wedi’u gwresogi, awyru cyfyngedig a llygryddion aer dan do waethygu asthma hefyd.
  • Norofeirws: Er gwaethaf y ffaith bod norofeirws yn bodoli drwy’r flwyddyn, mae’n cael ei adnabod yn gyffredin fel ‘byg chwydu’r gaeaf’, yn bennaf oherwydd ei fod yn lledaenu’n haws yn ystod tywydd oer pan fydd pobl yn treulio mwy o amser yn agos at ei gilydd mewn adeiladau sydd wedi’u gwresogi. Mae norofeirws yn ymledu yn gyflym mewn amgylcheddau caeedig, a dyna pam mae’n gyffredin cael achosion mewn ysgolion, ysbytai, gwestai neu longau mordeithio.

Angen cyfarwyddyd ar faterion sy’n ymwneud â gwaith ac iechyd?

Gellir cael cefnogaeth a chyfarwyddyd ynghylch gwaith ac iechyd gan Ffit i Weithio, sy’n cynnig cyngor a chyfarwyddyd ar iechyd sy’n gysylltiedig â gwaith ar-lein yn rhad ac am ddim ac arweiniad i unrhyw un sy’n chwilio am gyngor a chefnogaeth ynghylch achos presennol o absenoldeb oherwydd salwch, neu ynghylch problemau a allai achosi absenoldeb oherwydd salwch. Ewch i’r wefan Ffit i Weithio neu ffoniwch y llinell gynghori dros y ffôn ar 0800 032 6235 (Saesneg) neu 0800 032 6233 (Cymraeg). Mae gwasanaeth ar wahân yn rhedeg yn yr Alban (0800 019 2211).

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *