menu icon menu icon

Diabetes a sut y gall effeithio ar rywun yn y gwaith

Cofnodwyd yn: Blog

Gall llawer o gyflyrau achosi problemau iechyd yn y gweithle ac absenoldeb hirdymor o’r gwaith. Un cyflwr sy’n dod yn gynyddol gyffredin yw diabetes.

Mae diabetes yn ganlyniad i’r corff heb fod yn gallu torri glwcos i lawr yn ynni, naill ai oherwydd nad yw’r corff yn cynhyrchu digon o inswlin i fetaboleiddio glwcos neu oherwydd nad yw’r inswlin a gynhyrchir gan y corff yn gweithio’n iawn.

Mae ffigurau Diabetes UK yn dangos bod nifer y bobl â diabetes yn y DU ers 1996 wedi mwy na dyblu o 1.4 miliwn i 3.5 million. Erbyn 2025, amcangyfrifir y bydd gan bum miliwn o bobl ddiabetes yn y DU.

Mathau o ddiabetes

Diabetes Math 1: Mae’n datblygu pan yw’r celloedd sy’n cynhyrchu inswlin yn y pancreas wedi’u dinistrio fel na all y corff gynnal lefelau glwcos arferol. Dim ond tua 10% o’r holl achosion o diabetes sy’n cyfrif am hyn ac mae’n cael ei reoli trwy bigiadau inswlin rheolaidd, gydol oes.

Diabetes Math 2: Mae hyn yn digwydd pan nad yw’r corff yn gwneud digon o inswlin ac mae’n fwyaf cyffredin ymhlith pobl canol oed neu hŷn. Fodd bynnag, mae’n dod yn fwyfwy cyffredin mewn pobl iau, pobl sy’n rhy drwm ac yn aml mae’n gysylltiedig â dewisiadau ynghylch ffordd o fyw. I ryw raddau, gellir rheoli diabetes math 2 trwy ddeiet ac ymarfer corff, er y bydd angen meddyginiaeth i lawer o bobl â diabetes math 2 i reoli lefelau glwcos.

Diabetes – arwyddion rhybudd
Gall rhai symptomau awgrymu dechrau diabetes, ac mae’r rhain yn cynnwys:

  • teimlo’n sychedig iawn;
  • troethi’n amlach, yn arbennig yn y nos;
  • chwant cynyddol am fwyd;
  • teimlo’n flinedig;
  • colli pwysau neu golli crynswth cyhyrau;
  • toriadau neu glwyfau sy’n iacháu’n araf;
  • golwg aneglur;
  • lyliau mynych o’r llindag .

Ffactorau risg ar gyfer diabetes

Diabetes math 1:

  • Hanes teuluol: Cael rhiant neu frawd neu chwaer â’r cyflwr.
  • Geneteg: Mae presenoldeb genynnau penodol yn dangos risg gynyddol o ddatblygu diabetes math 1.

Diabetes math 2:

  • Hanes teuluol: Mae’r rhai hynny sydd â pherthynas agos â diabetes math 2 yn fwy tebygol o ddatblygu’r cyflwr.
  • Pwysau: Mae bod yn rhy drwm (BMI o 25+) neu’n ordew (BMI o 30+) yn cynyddu siawns person o ddatblygu diabetes math 2.
  • Oedran: Mae’r risg o ddatblygu diabetes math 2 yn cynyddu ag oedran.
  • Ethnigrwydd: Mae pobl o dras Affricanaidd-Caribïaidd, Du Affricanaidd neu De Asiaidd ddwywaith i bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu diabetes math 2.

Cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â diabetes

  • Clefyd y galon a strôc: Clefyd coronaidd y galon yw’r achos marwolaeth ar gyfer 80% o bobl â diabetes ac mae’n cynyddu’r risg o ddatblygu problemau cardiofasgwlaidd eraill megis trawiad ar y galon, strôc a’r rhydwelïau’n culhau.
  • Niwed i’r llygaid: gall diabetes niweidio gwaedlestri’r retina a chynyddu’r risg o gyflyrau eraill megis cataractau a glawcoma.
  • Niwed i’r arennau: Gall yr arennau, sy’n hidlo gwastraff o’r corff, gael eu niweidio gan ddiabetes, a all arwain at fethiant yr arennau neu glefyd yr arennau.
  • Problemau traed: Mae gan bobl â diabetes risg uwch o gael wlserau a niwed i’r traed oherwydd gall diabetes niweidio’r gwaedlestri a’r nerfau ymylol.
  • Cyflyrau’r croen a’r geg: Heintiau bacteriaidd (e.e. llefrithod, carbynclau neu heintiau o amgylch yr ewinedd), heintiau ffwngaidd (e.e. tarwden y traed a llyngyr cylch) a chosi (yn arbennig yn rhannau isaf y coesau).

Diabetes yn y gweithle

Gall llawer o bobl reoli eu diabetes heb iddo effeithio ar eu gwaith. Fodd bynnag, mae’n bwysig i gyflogwyr fod yn ymwybodol o’r risgiau a wynebir gan weithwyr â diabetes. Efallai y bydd rhai gweithwyr (yn arbennig y rhai hynny â diabetes math 2) yn cael trafferth wrth wneud gwaith sifft oherwydd y gall newidiadau i amseriad meddyginiaeth a deiet effeithio ar ba mor sefydlog yw eu cyflwr. Er enghraifft, os yw siŵgr gwaed person diabetig yn disgyn islaw lefel benodol, gallant ddioddef o bwl hypoglycaemig, a gallant deimlo’n egwan, gwan, a gallant hyd yn oed golli ymwybyddiaeth.

Dylai cyflogwyr ymgymryd ag asesiad risg, gyda mewnbwn gan y gweithiwr, i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer sefyllfaoedd o’r fath. Dylai’r asesiad gynnwys ystyriaeth o’r canlynol:

  • Pa mor sefydlog yw cyflwr yr unigolyn a’r math o driniaeth maent yn ei derbyn
  • A fydd gan y person fynediad i egwyliau bwyd rheolaidd, a’r cyfle i brofi lefel y glwcos yn eu gwaed yn y gwaith.
  • Lefel a rheoleidd-dra’r gweithgarwch a wneir yn ystod dyletswyddau’r person gan fod hyn yn effeithio ar lefel y glwcos yn y gwaed.
  • Gweithgarwch a wneir gan y gweithiwr a allai eu rhoi mewn perygl pe byddent yn mynd yn benysgafn neu’n colli ymwybyddiaeth oherwydd siŵgr gwaed isel iawn, o’r enw hypoglycaemia neu ‘hypos’.
  • A ellir, o gofio’r hyn uchod, ymgymryd â gweithgareddau megis gweithio ar eu hunain, gweithio yn y nos neu weithgareddau eraill sy’n cyflwyno risg, megis gyrru, yn ddiogel neu beidio.

Gellir ceisio cymorth a chyfarwyddyd ynghylch gwaith ac iechyd gan Ffit i Weithio, sy’n cynnig cyngor a chyfarwyddyd am ddim ynghylch iechyd cysylltiedig â gwaith ar-lein i unrhyw un sy’n chwilio am gyngor a chymorth ynghylch achos presennol o absenoldeb oherwydd salwch, neu ynghylch materion a allai arwain at absenoldeb oherwydd salwch. Gellir cyfeirio pobl sydd wedi bod yn ddi-waith oherwydd salwch am bedair wythnos neu fwy am asesiad ffôn gyda rheolwr achos Ffit i Weithio er mwyn nodi’r holl rwystrau sy’n atal y person rhag dychwelyd i’r gwaith. Hefyd gall y rheolwr achos Ffit i Weithio ddarparu argymhellion ynghylch sut y gellir mynd i’r afael â’r rhwystrau ac o bosibl galluogi’r person i ddychwelyd i’r gwaith yn gynnar. Ewch i’r wefan Ffit i Weithio neu ffoniwch y llinell gyngor dros y ffôn ar 0800 032 6235 (Saesneg) neu 0800 032 6233 (Cymraeg). Mae gwasanaeth ar wahân yn rhedeg yn yr Alban (0800 019 2211).

Leave a Reply

Your e-mail address will not be published. Required fields are marked *