Gweithdrefn Cwynion ac Adborth
Cyflwyniad
Mae Ffit i Weithio yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth proffesiynol, effeithlon a chwrtais i’n cleientiaid. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo nad ydym wedi bodloni’r safonau hyn rydym am i chi roi gwybod i ni. Rydym yn gweld hyn fel cyfle i fonitro a gwella ansawdd ein gwasanaeth yn barhaus. Byddwn yn ymchwilio i’ch pryderon yn wrthrychol ac yn ceisio darparu ateb cadarnhaol a chyflym.
Yn yr un modd, os hoffech roi adborth – da neu ddrwg – am Ffit i Weithio, hoffem glywed gennych.
Sut i wneud cwyn neu gyflwyno adborth
Mae yna sawl ffordd o wneud cwyn neu gyflwyno adborth:
Ar-lein: Cliciwch yma.
Ar y ffôn: 0330 221 0283 / 0203 425 5001.
Yn ysgrifenedig: Customer Contact Manager, Fit for Work, 1 North Bank, Blonk Street, Sheffield, S3 8JY. Rhowch eich manylion cyswllt a nodwch natur eich cwyn neu adborth.
Byddwn yn ymdrin â’ch cwyn yn gyfrinachol.
Ymdrin â’ch cwyn a pha mor hir fydd y broses
Bydd pob cwyn neu adborth yn cael ei gydnabod o fewn dau ddiwrnod gwaith o’i derbyn. Os ydych chi wedi gwneud cwyn, byddwn yn ymchwilio iddi ac yn ceisio anfon ein penderfyniad ysgrifenedig atoch o fewn 10 diwrnod gwaith. Os na allwn ddatrys eich cwyn yn y cam hwn, byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau ein bod ni’n dal i ymchwilio i’ch cwyn.
Os ydych yn anfodlon â’r canlyniad gallwch ofyn i ni ystyried y mater unwaith eto. Byddwn yn anfon eich cwyn at reolwr uwch i wneud penderfyniad llawn a therfynol. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon ar ôl derbyn ein penderfyniad terfynol, bydd ein hymateb terfynol yn egluro sut y gallwch fynd â’ch cwyn ymhellach.